Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 a Fideo Gynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022
Amser:
09.00 -
11.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13103
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Natasha Asghar AS Rhianon Passmore AS |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock Claire Flood-Page Verity Winn Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) Rhun Davies (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Mike Hedges AS.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd ar Argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor ynghylch craffu ar gyfrifon 2020-21
2.2 Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd ar Argymhelliad 3 yn adroddiad y Pwyllgor ynghylch craffu ar gyfrifon 2020-21
2.3 Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch fframweithiau uwchgyfeirio ac ymyrryd
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd).
4.1 Cafodd y Pwyllgor papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin ar nifer o bwyntiau.
5 Comisiynu Cartrefi Gofal: Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
6 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Y cwricwlwm newydd i Gymru
6.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Archwilio Cymru ar ei adroddiad: Y cwricwlwm newydd i Gymru.
7 Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Mynd i’r Afael â’r Ôl-groniad mewn Gofal wedi’i Gynllunio yng Nghymru
7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Archwilio Cymru ar ei adroddiad: Mynd i’r Afael â’r Ôl-groniad mewn Gofal wedi’i Gynllunio yng Nghymru